Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau, Pryderon, Cwynion ac iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2(1) yn gohirio’r dyddiad y daw Rhan 7 o’r prif Reoliadau i rym, o 1 Hydref 2011 tan 1 Ebrill 2012. Mae Rhan 7 o’r prif Reoliadau yn ymdrin â’r modd y mae iawn i’w ddarparu pan fo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn ymuno mewn trefniant i ddarparu gwasanaethau iechyd gyda chorff GIG yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3(ii), ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad, mae’r Pwyllgor yn adrodd i’r Cynulliad fel a ganlyn.
Cefndir
Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG 2008 oedd y Mesur
Cynulliad cyntaf i gael ei basio gan y Cynulliad. Mae’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud Rheoliadau sy’n
caniatáu ar gyfer gwneud iawn mewn amgylchiadau pan fydd
atebolrwydd cymwys mewn camwedd mewn perthynas â darparu
gwasanaethau cymwys. Gall gwneud iawn gynnwys ymddiheuro,
eglurhad, camau gweithredu, camau unioni ac, os yw’n briodol,
iawndal ariannol.
Y gyfres gyntaf o reoliadau a gafodd eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn oedd Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y prif reoliadau”), a osodwyd gan Edwina Hart AC, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, ar 7 Chwefror 2011.
Diben y prif reoliadau yw ei gwneud yn haws i gleifion fynegi pryderon os nad ydynt yn fodlon neu os oes problemau â’u gofal yn y GIG. Byddant hefyd yn sicrhau bod ymagwedd y GIG at sefyllfaoedd o’r fath yn fwy cyson ac yn arwain at ganlyniadau tecach i gleifion a staff.
Yn 2007, cymerodd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth, fel y’i gelwid bryd hynny, dystiolaeth ar y Mesur a chyflwynodd adroddiad arno. Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylid cael lefel gryf o waith craffu ar gyfer Rheoliadau a wneir o dan y Mesur ac y dylid cael ymgynghoriad eang arnynt.
Cafodd y prif reoliadau eu hystyried gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Trydydd Cynulliad ar 17 Chwefror 2011. Cyflwynodd y pwyllgor hwnnw adroddiad ar rinweddau’r prif reoliadau a gwnaeth y sylwadau a ganlyn:
“Rydym wedi ystyried y Rheoliadau presennol mewn perthynas â’r materion a godwyd uchod, yn enwedig a fu digon o ymgynghori ynghylch y rheoliadau ac a yw’r Rheoliadau fel y’u cyflwynwyd yn adlewyrchu’n ddigonol y materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad …
Er y credwn fod y pryderon cyffredinol ynghylch Mesurau ‘Fframwaith’ yn parhau i fod yn rhai dilys (ac er ein bod yn nodi’r amser sylweddol a aeth heibio ers pasio’r Mesur), rydym yn fodlon y bu’r ymgynghoriad ar y Rheoliadau draft hyn yn drylwyr a chynhwysol a’i fod wedi ymateb i’r pryderon a godwyd.”
Roedd y prif reoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol a chawsant eu cymeradwyo gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2011. Daethant i rym ar 1 Ebrill 2011, ac eithrio darpariaethau yn Rhan 7 o’r rheoliadau y bwriadwyd iddynt ddod i rym, yn wreiddiol, ar 1 Hydref 2011.
Cafodd Rheoliadau’r Gwasanaeth iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y rheoliadau diwygio”) eu cyflwyno gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar 12 Gorffennaf 2011.
Diben diwygio’r rheoliadau yw gohirio’r dyddiad y daw Rhan 7 o’r prif Reoliadau i rym, o 1 Hydref 2011 tan 1 Ebrill 2012.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod angen hyn er mwyn caniatáu i gyrff GIG Cymru a gweddill y DU gytuno ar fanylion y trefniadau gweithrediadol. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol a ddaw gyda’r Rheoliadau:
“The reason for this change is to allow more time for this work to be completed since the initial assessment that a coming into force date of 1 October 2011 would be sufficient time to agree these amendments, is not now achievable.”
Gwneir newid arall i reoliad 52(5) o’r prif reoliadau i adlewyrchu’r dyddiad newydd y bydd Rhan 7 o’r Rheoliadau yn dod i rymac mae’n ei gwneud yn glir na fydd y trefniadau trawsffiniol y cyfeirir atynt yn Rhan 7 yn berthnasol i wasanaethau a ddarperir gan gyrff y GIG yn Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon ar ran cyrff y GIG yng Nghymru cyn 1 Ebrill 2012.
Ystyriaeth gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Er ein bod yn cytuno â Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Trydydd Cynulliad bod y prif reoliadau yn adlewyrchu’r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn ddigonol, mae cyflwyno rheoliadau diwygio yn awgrymu efallai nad oedd digon o ymgynghoriad â chyrff y GIG mewn rhannau eraill o’r DU mewn cysylltiad â materion trawsffiniol.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol